Enillwyr Gwobr

Enillydd Gwobr ESPY 2019
Categori: Digidol
Eduard Korniyenko, Arglwyddi’r G uns
Yn Rwsia, mae addysg wladgarol filwrol wedi dod rhan o’r system addysg. O oedran cynnar mae plant un astudio hanes Rwsia, ac yn ymarfer yn briodol ar gyfer ei oedrannau a sgiliau, ac yn hyfforddi at glybiau milwrol.
Yn rhanbarth Cacasus, ble mae cwlt o freichiau a thraddodiadau milwrol yn gryf, mae llawer o ysgolion cadét. Yn yr ysgolion yma mae lawer o wersi yn cael ei gynnwys fel dysgeidiaeth ysbrydol, sesiynau hyfforddi maes, nosweithiau tu allan, neidio parasiwt a meistroli gyda gynnau. Yn aml mae’r hyfforddiant yn ddwys ac mae’r plant yn mynd ati fel oedolyn.
Mae llawer o’r plant yma yn breuddwydio am yrfa yn y gwasanaeth milwrol. Mae un o’r cadetiaid, Dmitry Pavlov (17 mlwydd oed) wedi dweud “rydw i’n mwynhau mynd i deithiau maes gyda’r ger i gyd, eistedd ar bwys y tan yn y nos, a chanu gyda’r gitâr, gwisgo cwis milwrol, gweithio gyda chadetiaid ifancach. Mae cyfathrebu gyda’r swyddogion yn bwysig i mi. Ni fyddwn i yn dysgu'r un pethau mewn ysgol arferol.”
Gwefan: eduardkorniyenko.com
Instagram: @ ed.korniyenko
Categori : Analog
Igor Tereshkov, Oi and Mossl
Ffilmiwyd y gyfres yma ar 35 mm du a gwyn. Cyn i’r ffilm gael ei datblygu, cafodd y ffilm ei socan mewn olew a gymerwyd o leoliad y delweddau. Er ei holl darddiad "organig" a naturioldeb, mae olew yn dinistrio cnawd gelatinous y ffilm, gan oresgyn yn y byd a ddarlunnir, ei ddarnio â thyllau a chrafiadau, ei ddadffurfio'n union fel amgylchedd niweidiol o dan y gollyngiad olew.
Ger Surgut, Rwsia ym mhentref Russkinskaya, mae Antonina Tevlina, ei mam a'i thad yn dal i fyw ffordd frodorol o fyw. Mae ceirw yn pori yn dir eu cyndadau, o tua 600 hectar. Roeddent yn wynebu problem newydd, daeth cynhyrchwyr olew i'w tir eto. Gollyngiadau olew, llygredd dŵr a llynnoedd, dinistrio'r ecosystem, mae hyn i gyd yn arwain at ostyngiad yn nifer y ceirw. "Mae Yagel fel bara i garw, os bydd rhywbeth yn digwydd cymerodd tua 30 mlynedd i'w adfer" - meddai Antonina Tevlina.
Mae tua 50% o olew yn Rwsia yn cael ei gynhyrchu gan KhMAO. Mae ardaloedd trwyddedig yn aml yn cyd-fynd â lleoedd preswyl pobl gynhenid. Mae gweithwyr olew lleol yn cellwair am KhMAO, mai dyma un ardal drwyddedig fawr ar gyfer cynhyrchu olew. Yn ôl data swyddogol Gweinyddiaeth Adnoddau Naturiol Ffederasiwn Rwsieg, o ganlyniad i ddamweiniau a chludo olew, mae tua 1.5 miliwn o dunelli o olew yn cael eu tywallt yn flynyddol i'r amgylchedd yn Rwsieg. Mae'r ffigur hwn yn ddwywaith cyfaint yr arllwysiad yng Nghwlff Mecsico yn 2010. Y prif reswm dros y gollyngiad olew yn Rwsia yw pib linellau olew rhydlyd gydag oes wedi dod i ben.
Gwefan: igortereshkov.com
Instagram: @tereshphoto