top of page

Amdano

 

Mae ESPY Photo Award yn gystadleuaeth ffotograffiaeth ryngwladol sydd yn cael ei gynnal bob dwy flynedd ar gyfer ffotograffwyr proffesiynol, amatur a myfyrwyr, gan annog dulliau traddodiadol ochr yn ochr â thechnegau digidol ac arbrofol.

 

Wedi'i sefydlu yn 2014 gan Daniel Staveley, mae ESPY yn aml yn arddangos a dathlu gwaith o bob rhan o'r byd, i Abertawe, De Cymru a'r DU, gyda chefnogaeth Oriel Elysium.

 

Mae Gwobr Lluniau ESPY yn sefydliad di elw a arweinir gan artistiaid. Mae'r holl elw a gynhyrchir yn cefnogi rhedeg ESPY, arddangosfeydd a gwobrau i gefnogi a gwella ein cymuned greadigol.

 

 

Elisabeth hayes.png

Elizabeth Hayes

Y Tîm

Daniel Staveley

Sylfaenydd a Chyfarwyddwr

Mae artist, darlithydd a cyd-gyfarwyddwr Oriel Elysium, Daniel Staveley, wedi sefydlu ESPY yn 2014 gyda'r bwriad o ddangos mwy o ffotgraffiaeth cyfoes i Abertawe, Cymru. 

Ers sefydlu ESPY, mae Daniel wedi
 dyfarnu pedair sioe unigol i ffotograffwyr rhyngwladol, ac wedi arddangos dros 150 o artistiaid ffotograffig cyfoes i gymuned greadigol Cymru tra hefyd yn ymarfer fel arlunydd ffotograffig, ac yn darlithio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Abby Poulson

Rhaglennu a Chyfranogi

Yn ymuno ag ESPY yn 2021, bydd artist a churadur Abby Poulson, yn gweithio ar y cyd â ffotograffwyr a’r gymuned wrth i ESPY gyflwyno rhaglen gyffrous newydd.

Mae Abby hefyd yn gweithredu fel  ffotograffydd, ac yn gyfarwyddwr ymddiriedolwyr gyda Peak Cymru. Mae'n angerddol am sefydlu rhwydweithiau creadigol newydd yng Nghymru ar gyfer artistiaid sy'n dod i'r amlwg.

Cysylltwch
bottom of page